Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 12:17-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd,

18. Wele fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais; fy anwylyd, yn yr hwn y mae fy enaid yn fodlon: gosodaf fy ysbryd arno, ac efe a draetha farn i'r Cenhedloedd.

19. Nid ymryson efe, ac ni lefain, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.

20. Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd, hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth.

21. Ac yn ei enw ef y gobeithia'r Cenhedloedd.

22. Yna y ducpwyd ato un cythreulig, dall, a mud: ac efe a'i hiachaodd ef, fel y llefarodd ac y gwelodd y dall a mud.

23. A'r holl dorfeydd a synasant, ac a ddywedasant, Ai hwn yw mab Dafydd?

24. Eithr pan glybu'r Phariseaid, hwy a ddywedasant, Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid, ond trwy Beelsebub pennaeth y cythreuliaid.

25. A'r Iesu yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanheddir; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni saif.

26. Ac os Satan a fwrw allan Satan, efe a ymrannodd yn ei erbyn ei hun: pa wedd gan hynny y saif ei deyrnas ef?

27. Ac os trwy Beelsebub yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 12