8. Ac Asa a genhedlodd Josaffat; a Josaffat a genhedlodd Joram; a Joram a genhedlodd Oseias;
9. Ac Oseias a genhedlodd Joatham; a Joatham a genhedlodd Achas; ac Achas a genhedlodd Eseceias;
10. Ac Eseceias a genhedlodd Manasses; a Manasses a genhedlodd Amon; ac Amon a genhedlodd Joseias;
11. A Joseias a genhedlodd Jechoneias a'i frodyr, ynghylch amser y symudiad i Fabilon;
12. Ac wedi'r symudiad i Fabilon, Jechoneias a genhedlodd Salathiel; a Salathiel a genhedlodd Sorobabel;
13. A Sorobabel a genhedlodd Abïud; ac Abïud a genhedlodd Eliacim; ac Eliacim a genhedlodd Asor;
14. Ac Asor a genhedlodd Sadoc; a Sadoc a genhedlodd Achim; ac Achim a genhedlodd Elïud;
15. Ac Elïud a genhedlodd Eleasar; ac Eleasar a genhedlodd Mathan; a Mathan a genhedlodd Jacob;
16. A Jacob a genhedlodd Joseff, gŵr Mair, o'r hon y ganed Iesu, yr hwn a elwir Crist.
17. Felly yr holl genedlaethau o Abraham hyd Dafydd, sydd bedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o Dafydd hyd y symudiad i Fabilon, pedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o'r symudiad i Fabilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddeg.
18. A genedigaeth yr Iesu Grist oedd fel hyn: Wedi dyweddïo Mair ei fam ef â Joseff, cyn eu dyfod hwy ynghyd, hi a gafwyd yn feichiog o'r Ysbryd Glân.
19. A Joseff ei gŵr hi, gan ei fod yn gyfiawn, ac heb chwennych ei gwneuthur hi yn siampl, a ewyllysiodd ei rhoi hi ymaith yn ddirgel.
20. Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Joseff, mab Dafydd, nac ofna gymryd Mair dy wraig: oblegid yr hyn a genhedlwyd ynddi sydd o'r Ysbryd Glân.
21. A hi a esgor ar fab, a thi a elwi ei enw ef IESU: oblegid efe a wared ei bobl oddi wrth eu pechodau.