Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 1:11-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. A Joseias a genhedlodd Jechoneias a'i frodyr, ynghylch amser y symudiad i Fabilon;

12. Ac wedi'r symudiad i Fabilon, Jechoneias a genhedlodd Salathiel; a Salathiel a genhedlodd Sorobabel;

13. A Sorobabel a genhedlodd Abïud; ac Abïud a genhedlodd Eliacim; ac Eliacim a genhedlodd Asor;

14. Ac Asor a genhedlodd Sadoc; a Sadoc a genhedlodd Achim; ac Achim a genhedlodd Elïud;

15. Ac Elïud a genhedlodd Eleasar; ac Eleasar a genhedlodd Mathan; a Mathan a genhedlodd Jacob;

16. A Jacob a genhedlodd Joseff, gŵr Mair, o'r hon y ganed Iesu, yr hwn a elwir Crist.

17. Felly yr holl genedlaethau o Abraham hyd Dafydd, sydd bedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o Dafydd hyd y symudiad i Fabilon, pedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o'r symudiad i Fabilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddeg.

18. A genedigaeth yr Iesu Grist oedd fel hyn: Wedi dyweddïo Mair ei fam ef â Joseff, cyn eu dyfod hwy ynghyd, hi a gafwyd yn feichiog o'r Ysbryd Glân.

19. A Joseff ei gŵr hi, gan ei fod yn gyfiawn, ac heb chwennych ei gwneuthur hi yn siampl, a ewyllysiodd ei rhoi hi ymaith yn ddirgel.

20. Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Joseff, mab Dafydd, nac ofna gymryd Mair dy wraig: oblegid yr hyn a genhedlwyd ynddi sydd o'r Ysbryd Glân.

21. A hi a esgor ar fab, a thi a elwi ei enw ef IESU: oblegid efe a wared ei bobl oddi wrth eu pechodau.

22. (A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy'r proffwyd, gan ddywedyd,

23. Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab; a hwy a alwant ei enw ef Emanuel; yr hyn o'i gyfieithu yw, Duw gyda ni.)

24. A Joseff, pan ddeffroes o gwsg, a wnaeth megis y gorchmynasai angel yr Arglwydd iddo, ac a gymerodd ei wraig:

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 1