25. A rhyw wraig, yr hon a fuasai mewn diferlif gwaed ddeuddeng mlynedd,
26. Ac a oddefasai lawer gan laweroedd o feddygon, ac a dreuliasai gymaint ag oedd ar ei helw, ac ni chawsai ddim llesâd, eithr yn hytrach myned waethwaeth,
27. Pan glybu hi am yr Iesu, hi a ddaeth yn y dyrfa o'r tu ôl, ac a gyffyrddodd â'i wisg ef;
28. Canys hi a ddywedasai, Os cyffyrddaf â'i ddillad ef, iach fyddaf.
29. Ac yn ebrwydd y sychodd ffynhonnell ei gwaed hi: a hi a wybu yn ei chorff ddarfod ei hiacháu o'r pla.
30. Ac yn y fan yr Iesu, gan wybod ynddo'i hun fyned rhinwedd allan ohono, a drodd yn y dyrfa, ac a ddywedodd, Pwy a gyffyrddodd â'm dillad?
31. A'i ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Ti a weli'r dyrfa yn dy wasgu, ac a ddywedi di, Pwy a'm cyffyrddodd?
32. Ac yntau a edrychodd o amgylch, i weled yr hon a wnaethai hyn.
33. Ond y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod beth a wnaethid ynddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo yr holl wirionedd.