23. Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Y mae fy merch fechan ar dranc: atolwg i ti ddyfod, a dodi dy ddwylo arni, fel yr iachaer hi; a byw fydd.
24. A'r Iesu a aeth gydag ef: a thyrfa fawr a'i canlynodd ef, ac a'i gwasgasant ef.
25. A rhyw wraig, yr hon a fuasai mewn diferlif gwaed ddeuddeng mlynedd,
26. Ac a oddefasai lawer gan laweroedd o feddygon, ac a dreuliasai gymaint ag oedd ar ei helw, ac ni chawsai ddim llesâd, eithr yn hytrach myned waethwaeth,
27. Pan glybu hi am yr Iesu, hi a ddaeth yn y dyrfa o'r tu ôl, ac a gyffyrddodd â'i wisg ef;
28. Canys hi a ddywedasai, Os cyffyrddaf â'i ddillad ef, iach fyddaf.
29. Ac yn ebrwydd y sychodd ffynhonnell ei gwaed hi: a hi a wybu yn ei chorff ddarfod ei hiacháu o'r pla.
30. Ac yn y fan yr Iesu, gan wybod ynddo'i hun fyned rhinwedd allan ohono, a drodd yn y dyrfa, ac a ddywedodd, Pwy a gyffyrddodd â'm dillad?
31. A'i ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Ti a weli'r dyrfa yn dy wasgu, ac a ddywedi di, Pwy a'm cyffyrddodd?
32. Ac yntau a edrychodd o amgylch, i weled yr hon a wnaethai hyn.
33. Ond y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod beth a wnaethid ynddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo yr holl wirionedd.
34. Ac efe a ddywedodd wrthi, Ha ferch, dy ffydd a'th iachaodd: dos mewn heddwch, a bydd iach o'th bla.
35. Ac efe eto yn llefaru, daeth rhai o dŷ pennaeth y synagog, gan ddywedyd, Bu farw dy ferch: i ba beth eto yr aflonyddi'r Athro?
36. A'r Iesu, yn ebrwydd wedi clywed y gair a ddywedasid, a ddywedodd wrth bennaeth y synagog, Nac ofna; cred yn unig.
37. Ac ni adawodd efe neb i'w ddilyn, ond Pedr, ac Iago, ac Ioan brawd Iago.
38. Ac efe a ddaeth i dŷ pennaeth y synagog, ac a ganfu'r cynnwrf, a'r rhai oedd yn wylo ac yn ochain llawer.