Hen Destament

Testament Newydd

Marc 5:1-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A hwy a ddaethant i'r tu hwnt i'r môr, i wlad y Gadareniaid.

2. Ac ar ei ddyfodiad ef allan o'r llong, yn y man cyfarfu ag ef o blith y beddau, ddyn ag ysbryd aflan ynddo,

3. Yr hwn oedd â'i drigfan ymhlith y beddau; ac ni allai neb, ie, â chadwynau, ei rwymo ef:

4. Oherwydd ei rwymo ef yn fynych â llyffetheiriau, ac â chadwynau, a darnio ohono'r cadwynau, a dryllio'r llyffetheiriau: ac ni allai neb ei ddofi ef.

5. Ac yn wastad nos a dydd yr oedd efe yn llefain yn y mynyddoedd, ac ymhlith y beddau, ac yn ei dorri ei hun â cherrig.

6. Ond pan ganfu efe yr Iesu o hirbell, efe a redodd, ac a'i haddolodd ef;

7. A chan weiddi â llef uchel, efe a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, Iesu Mab y Duw goruchaf? yr ydwyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenech fi.

8. (Canys dywedasai wrtho, Ysbryd aflan, dos allan o'r dyn.)

9. Ac efe a ofynnodd iddo, Beth yw dy enw? Yntau a atebodd, gan ddywedyd, Lleng yw fy enw; am fod llawer ohonom.

10. Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, na yrrai efe hwynt allan o'r wlad.

11. Ond yr oedd yno ar y mynyddoedd genfaint fawr o foch yn pori.

12. A'r holl gythreuliaid a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Danfon ni i'r moch, fel y gallom fyned i mewn iddynt.

13. Ac yn y man y caniataodd yr Iesu iddynt. A'r ysbrydion aflan, wedi myned allan, a aethant i mewn i'r moch: a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r môr (ac ynghylch dwy fil oeddynt) ac a'u boddwyd yn y môr.

14. A'r rhai a borthent y moch a ffoesant, ac a fynegasant y peth yn y ddinas, ac yn y wlad: a hwy a aethant allan i weled beth oedd hyn a wnaethid.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 5