28. Canys y ddaear a ddwg ffrwyth ohoni ei hun; yn gyntaf yr eginyn, ar ôl hynny y dywysen, yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen.
29. A phan ymddangoso'r ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y cryman ynddo, am ddyfod y cynhaeaf.
30. Ac efe a ddywedodd, I ba beth y cyffelybem deyrnas Dduw? neu ar ba ddameg y gwnaem gyffelybrwydd ohoni?
31. Megis gronyn o had mwstard ydyw, yr hwn pan heuer yn y ddaear, sydd leiaf o'r holl hadau sydd ar y ddaear;
32. Eithr wedi yr heuer, y mae yn tyfu, ac yn myned yn fwy na'r holl lysiau, ac efe a ddwg ganghennau mawrion; fel y gallo ehediaid yr awyr nythu dan ei gysgod ef.
33. Ac â chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair, hyd y gallent ei wrando:
34. Ond heb ddameg ni lefarodd wrthynt: ac o'r neilltu i'w ddisgyblion efe a eglurodd bob peth.
35. Ac efe a ddywedodd wrthynt y dwthwn hwnnw, wedi ei hwyrhau hi, Awn trosodd i'r tu draw.
36. Ac wedi iddynt ollwng ymaith y dyrfa, hwy a'i cymerasant ef fel yr oedd yn y llong: ac yr oedd hefyd longau eraill gydag ef.