Hen Destament

Testament Newydd

Marc 4:26-41 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Ac efe a ddywedodd, Felly y mae teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn had i'r ddaear;

27. A chysgu, a chodi nos a dydd, a'r had yn egino ac yn tyfu, y modd nis gŵyr efe.

28. Canys y ddaear a ddwg ffrwyth ohoni ei hun; yn gyntaf yr eginyn, ar ôl hynny y dywysen, yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen.

29. A phan ymddangoso'r ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y cryman ynddo, am ddyfod y cynhaeaf.

30. Ac efe a ddywedodd, I ba beth y cyffelybem deyrnas Dduw? neu ar ba ddameg y gwnaem gyffelybrwydd ohoni?

31. Megis gronyn o had mwstard ydyw, yr hwn pan heuer yn y ddaear, sydd leiaf o'r holl hadau sydd ar y ddaear;

32. Eithr wedi yr heuer, y mae yn tyfu, ac yn myned yn fwy na'r holl lysiau, ac efe a ddwg ganghennau mawrion; fel y gallo ehediaid yr awyr nythu dan ei gysgod ef.

33. Ac â chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair, hyd y gallent ei wrando:

34. Ond heb ddameg ni lefarodd wrthynt: ac o'r neilltu i'w ddisgyblion efe a eglurodd bob peth.

35. Ac efe a ddywedodd wrthynt y dwthwn hwnnw, wedi ei hwyrhau hi, Awn trosodd i'r tu draw.

36. Ac wedi iddynt ollwng ymaith y dyrfa, hwy a'i cymerasant ef fel yr oedd yn y llong: ac yr oedd hefyd longau eraill gydag ef.

37. Ac fe a gyfododd tymestl fawr o wynt, a'r tonnau a daflasant i'r llong, hyd onid oedd hi yn llawn weithian.

38. Ac yr oedd efe yn y pen ôl i'r llong, yn cysgu ar obennydd: a hwy a'i deffroesant ef, ac a ddywedasant wrtho, Athro, ai difater gennyt ein colli ni?

39. Ac efe a gododd i fyny, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth y môr, Gostega, distawa. A'r gwynt a ostegodd, a bu tawelwch mawr.

40. Ac efe a ddywedodd wrthynt. Paham yr ydych mor ofnog? pa fodd nad oes gennych ffydd?

41. Eithr hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan fod y gwynt a'r môr yn ufuddhau iddo?

Darllenwch bennod gyflawn Marc 4