Hen Destament

Testament Newydd

Marc 1:24-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nasareth? a ddaethost ti i'n difetha ni? mi a'th adwaen pwy ydwyt, Sanct Duw.

25. A'r Iesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Taw, a dos allan ohono.

26. Yna wedi i'r ysbryd aflan ei rwygo ef, a gweiddi â llef uchel, efe a ddaeth allan ohono.

27. Ac fe a aeth ar bawb fraw, fel yr ymofynasant yn eu mysg eu hunain, gan ddywedyd, Beth yw hyn? pa athrawiaeth newydd yw hon? canys trwy awdurdod y mae efe yn gorchymyn, ie, yr ysbrydion aflan, a hwy yn ufuddhau iddo.

28. Ac yn ebrwydd yr aeth sôn amdano dros yr holl wlad o amgylch Galilea.

29. Ac yn y man wedi iddynt fyned allan o'r synagog, hwy a aethant i dŷ Simon ac Andreas, gydag Iago ac Ioan.

30. Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o'r cryd: ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho amdani hi.

31. Ac efe a ddaeth, ac a'i cododd hi i fyny, gan ymaflyd yn ei llaw hi: a'r cryd a'i gadawodd hi yn y man; a hi a wasanaethodd arnynt hwy.

32. Ac wedi iddi hwyrhau, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a'r rhai cythreulig.

33. A'r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws.

34. Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid; ac ni adawodd i'r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent ef.

35. A'r bore yn blygeiniol iawn, wedi iddo godi, efe a aeth allan, ac a aeth i le anghyfannedd; ac yno y gweddïodd.

36. A Simon, a'r rhai oedd gydag ef, a'i dilynasant ef.

37. Ac wedi iddynt ei gael ef, hwy a ddywedasant wrtho, Y mae pawb yn dy geisio di.

38. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Awn i'r trefydd nesaf, fel y gallwyf bregethu yno hefyd: canys i hynny y deuthum allan.

39. Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu synagogau hwynt trwy holl Galilea, ac yn bwrw allan gythreuliaid.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 1