Hen Destament

Testament Newydd

Marc 1:1-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Dechrau efengyl Iesu Grist, Fab Duw;

2. Fel yr ysgrifennwyd yn y proffwydi, Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o'th flaen.

3. Llef un yn llefain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch yn union ei lwybrau ef.

4. Yr oedd Ioan yn bedyddio yn y diffeithwch, ac yn pregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau.

5. Ac aeth allan ato ef holl wlad Jwdea, a'r Hierosolymitiaid, ac a'u bedyddiwyd oll ganddo yn afon yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.

6. Ac Ioan oedd wedi ei wisgo â blew camel, a gwregys croen ynghylch ei lwynau, ac yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt.

7. Ac efe a bregethodd, gan ddywedyd, Y mae yn dyfod ar fy ôl i un cryfach na myfi, carrai esgidiau yr hwn nid wyf fi deilwng i ymostwng ac i'w datod.

8. Myfi yn wir a'ch bedyddiais chwi â dwfr: eithr efe a'ch bedyddia chwi â'r Ysbryd Glân.

9. A bu yn y dyddiau hynny, ddyfod o'r Iesu o Nasareth yng Ngalilea; ac efe a fedyddiwyd gan Ioan yn yr Iorddonen.

10. Ac yn ebrwydd wrth ddyfod i fyny o'r dwfr, efe a welodd y nefoedd yn agored, a'r Ysbryd yn disgyn arno megis colomen.

11. A llef a ddaeth o'r nefoedd, Tydi yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y'm bodlonwyd.

12. Ac yn ebrwydd y gyrrodd yr Ysbryd ef i'r diffeithwch.

13. Ac efe a fu yno yn y diffeithwch ddeugain niwrnod yn ei demtio gan Satan: ac yr oedd efe gyda'r gwylltfilod: a'r angylion a weiniasant iddo.

14. Ac ar ôl traddodi Ioan, yr Iesu a ddaeth i Galilea, gan bregethu efengyl teyrnas Dduw;

15. A dywedyd, Yr amser a gyflawnwyd, a theyrnas Dduw a nesaodd: edifarhewch, a chredwch yr efengyl.

16. Ac fel yr oedd efe yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu Simon, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd yn y môr: (canys pysgodwyr oeddynt.)

Darllenwch bennod gyflawn Marc 1