9. A Herod a ddywedodd, Ioan a dorrais i ei ben: ond pwy ydyw hwn yr wyf yn clywed y cyfryw bethau amdano? Ac yr oedd efe yn ceisio ei weled ef.
10. A'r apostolion, wedi dychwelyd, a fynegasant iddo'r cwbl a wnaethent. Ac efe a'u cymerth hwynt, ac a aeth o'r neilltu, i le anghyfannedd yn perthynu i'r ddinas a elwir Bethsaida.
11. A'r bobloedd pan wybuant, a'i dilynasant ef: ac efe a'u derbyniodd hwynt, ac a lefarodd wrthynt am deyrnas Dduw, ac a iachaodd y rhai oedd arnynt eisiau eu hiacháu.
12. A'r dydd a ddechreuodd hwyrhau; a'r deuddeg a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Gollwng y dyrfa ymaith, fel y gallont fyned i'r trefi, ac i'r wlad oddi amgylch, i letya, ac i gael bwyd: canys yr ydym ni yma mewn lle anghyfannedd.
13. Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta. A hwythau a ddywedasant, Nid oes gennym ni ond pum torth, a dau bysgodyn, oni bydd inni fyned a phrynu bwyd i'r bobl hyn oll.
14. Canys yr oeddynt ynghylch pum mil o wŷr. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Gwnewch iddynt eistedd yn fyrddeidiau, bob yn ddeg a deugain.
15. Ac felly y gwnaethant; a hwy a wnaethant iddynt oll eistedd.
16. Ac efe a gymerodd y pum torth, a'r ddau bysgodyn, ac a edrychodd i fyny i'r nef, ac a'u bendithiodd hwynt, ac a'u torrodd, ac a'u rhoddodd i'r disgyblion i'w gosod gerbron y bobl.
17. A hwynt‐hwy oll a fwytasant, ac a gawsant ddigon: a chyfodwyd a weddillasai iddynt o friwfwyd, ddeuddeg basgedaid.
18. Bu hefyd, fel yr oedd efe yn gweddïo ei hunan, fod ei ddisgyblion gydag ef: ac efe a ofynnodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y mae'r bobl yn dywedyd fy mod i?