Hen Destament

Testament Newydd

Luc 9:53-62 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

53. Ac nis derbyniasant hwy ef, oblegid fod ei wyneb ef yn tueddu tua Jerwsalem.

54. A'i ddisgyblion ef, Iago ac Ioan, pan welsant, a ddywedasant, Arglwydd, a fynni di ddywedyd ohonom am ddyfod tân i lawr o'r nef, a'u difa hwynt, megis y gwnaeth Eleias?

55. Ac efe a drodd, ac a'u ceryddodd hwynt; ac a ddywedodd, Ni wyddoch o ba ysbryd yr ydych chwi.

56. Canys ni ddaeth Mab y dyn i ddistrywio eneidiau dynion, ond i'w cadw. A hwy a aethant i dref arall.

57. A bu, a hwy yn myned, ddywedyd o ryw un ar y ffordd wrtho ef, Arglwydd, mi a'th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.

58. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod; ond gan Fab y dyn nid oes lle y rhoddo ei ben i lawr.

59. Ac efe a ddywedodd wrth un arall, Dilyn fi. Ac yntau a ddywedodd, Arglwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad.

60. Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gad i'r meirw gladdu eu meirw: ond dos di, a phregetha deyrnas Dduw.

61. Ac un arall hefyd a ddywedodd, Mi a'th ddilynaf di, O Arglwydd; ond gad i mi yn gyntaf ganu'n iach i'r rhai sydd yn fy nhÅ·.

62. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes neb a'r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o'i ôl, yn gymwys i deyrnas Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 9