Hen Destament

Testament Newydd

Luc 9:16-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Ac efe a gymerodd y pum torth, a'r ddau bysgodyn, ac a edrychodd i fyny i'r nef, ac a'u bendithiodd hwynt, ac a'u torrodd, ac a'u rhoddodd i'r disgyblion i'w gosod gerbron y bobl.

17. A hwynt‐hwy oll a fwytasant, ac a gawsant ddigon: a chyfodwyd a weddillasai iddynt o friwfwyd, ddeuddeg basgedaid.

18. Bu hefyd, fel yr oedd efe yn gweddïo ei hunan, fod ei ddisgyblion gydag ef: ac efe a ofynnodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y mae'r bobl yn dywedyd fy mod i?

19. Hwythau gan ateb a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr; ond eraill, mai Eleias; ac eraill, mai rhyw broffwyd o'r rhai gynt a atgyfododd.

20. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phedr gan ateb a ddywedodd, Crist Duw.

21. Ac efe a roes orchymyn arnynt, ac a archodd iddynt na ddywedent hynny i neb;

22. Gan ddywedyd, Mae'n rhaid i Fab y dyn oddef llawer, a'i wrthod gan yr henuriaid, a'r archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd atgyfodi.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 9