31. A dywedodd yr Arglwydd, I bwy gan hynny y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon? ac i ba beth y maent yn debyg?
32. Tebyg ydynt i blant yn eistedd yn y farchnad, ac yn llefain wrth ei gilydd, ac yn dywedyd, Canasom bibau i chwi, ac ni ddawnsiasoch; cwynfanasom i chwi, ac nid wylasoch.
33. Canys daeth Ioan Fedyddiwr heb na bwyta bara, nac yfed gwin; a chwi a ddywedwch, Y mae cythraul ganddo.
34. Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed; ac yr ydych yn dywedyd, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid.
35. A doethineb a gyfiawnhawyd gan bawb o'i phlant.
36. Ac un o'r Phariseaid a ddymunodd arno fwyta gydag ef: ac yntau a aeth i dŷ'r Pharisead, ac a eisteddodd i fwyta.
37. Ac wele, gwraig yn y ddinas, yr hon oedd bechadures, pan wybu hi fod yr Iesu yn eistedd ar y bwrdd yn nhŷ'r Pharisead, a ddug flwch o ennaint:
38. A chan sefyll wrth ei draed ef o'r tu ôl, ac wylo, hi a ddechreuodd olchi ei draed ef â dagrau, ac a'u sychodd â gwallt ei phen: a hi a gusanodd ei draed ef, ac a'u hirodd â'r ennaint.
39. A phan welodd y Pharisead, yr hwn a'i gwahoddasai, efe a ddywedodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Pe bai hwn broffwyd, efe a wybuasai pwy, a pha fath wraig yw'r hon sydd yn cyffwrdd ag ef: canys pechadures yw hi.
40. A'r Iesu gan ateb a ddywedodd wrtho, Simon, y mae gennyf beth i'w ddywedyd wrthyt. Yntau a ddywedodd, Athro, dywed.
41. Dau ddyledwr oedd i'r un echwynnwr: y naill oedd arno bum can ceiniog o ddyled, a'r llall ddeg a deugain.
42. A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau. Dywed gan hynny, pwy o'r rhai hyn a'i câr ef yn fwyaf?
43. A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Yr wyf fi'n tybied mai'r hwn y maddeuodd efe iddo fwyaf. Yntau a ddywedodd wrtho, Uniawn y bernaist.
44. Ac efe a drodd at y wraig, ac a ddywedodd wrth Simon, A weli di'r wraig hon? mi a ddeuthum i'th dŷ di, ac ni roddaist i mi ddwfr i'm traed: ond hon a olchodd fy nhraed â dagrau, ac a'u sychodd â gwallt ei phen.
45. Ni roddaist i mi gusan: ond hon, er pan ddeuthum i mewn, ni pheidiodd â chusanu fy nhraed.
46. Fy mhen ag olew nid iraist: ond hon a irodd fy nhraed ag ennaint.