Ac efe a drodd at y wraig, ac a ddywedodd wrth Simon, A weli di'r wraig hon? mi a ddeuthum i'th dŷ di, ac ni roddaist i mi ddwfr i'm traed: ond hon a olchodd fy nhraed â dagrau, ac a'u sychodd â gwallt ei phen.