Hen Destament

Testament Newydd

Luc 4:9-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Ac efe a'i dug ef i Jerwsalem, ac a'i gosododd ar binacl y deml, ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw ydwyt, bwrw dy hun i lawr oddi yma:

10. Canys ysgrifenedig yw, Y gorchymyn efe i'w angylion o'th achos di, ar dy gadw di;

11. Ac y cyfodant di yn eu dwylo, rhag i ti un amser daro dy droed wrth garreg.

12. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Dywedwyd, Na themtia yr Arglwydd dy Dduw.

13. Ac wedi i ddiafol orffen yr holl demtasiwn, efe a ymadawodd ag ef dros amser.

14. A'r Iesu a ddychwelodd trwy nerth yr ysbryd i Galilea: a sôn a aeth amdano ef trwy'r holl fro oddi amgylch.

15. Ac yr oedd efe yn athrawiaethu yn eu synagogau hwynt, ac yn cael anrhydedd gan bawb.

16. Ac efe a ddaeth i Nasareth, lle y magesid ef: ac yn ôl ei arfer, efe a aeth i'r synagog ar y Saboth, ac a gyfododd i fyny i ddarllen.

17. A rhodded ato lyfr y proffwyd Eseias. Ac wedi iddo agoryd y llyfr, efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig,

18. Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf fi, oherwydd iddo fy eneinio i; i bregethu i'r tlodion yr anfonodd fi, i iacháu'r drylliedig o galon, i bregethu gollyngdod i'r caethion, a chaffaeliad golwg i'r deillion, i ollwng y rhai ysig mewn rhydd-deb,

19. I bregethu blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd.

20. Ac wedi iddo gau'r llyfr, a'i roddi i'r gweinidog, efe a eisteddodd. A llygaid pawb oll yn y synagog oedd yn craffu arno.

21. Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Heddiw y cyflawnwyd yr ysgrythur hon yn eich clustiau chwi.

22. Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yr oeddynt yn rhyfeddu am y geiriau grasusol a ddeuai allan o'i enau ef. A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw mab Joseff?

23. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn hollol y dywedwch y ddihareb hon wrthyf, Y meddyg, iachâ di dy hun: y pethau a glywsom ni eu gwneuthur yng Nghapernaum, gwna yma hefyd yn dy wlad dy hun.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 4