Hen Destament

Testament Newydd

Luc 4:14-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A'r Iesu a ddychwelodd trwy nerth yr ysbryd i Galilea: a sôn a aeth amdano ef trwy'r holl fro oddi amgylch.

15. Ac yr oedd efe yn athrawiaethu yn eu synagogau hwynt, ac yn cael anrhydedd gan bawb.

16. Ac efe a ddaeth i Nasareth, lle y magesid ef: ac yn ôl ei arfer, efe a aeth i'r synagog ar y Saboth, ac a gyfododd i fyny i ddarllen.

17. A rhodded ato lyfr y proffwyd Eseias. Ac wedi iddo agoryd y llyfr, efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig,

18. Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf fi, oherwydd iddo fy eneinio i; i bregethu i'r tlodion yr anfonodd fi, i iacháu'r drylliedig o galon, i bregethu gollyngdod i'r caethion, a chaffaeliad golwg i'r deillion, i ollwng y rhai ysig mewn rhydd-deb,

19. I bregethu blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd.

20. Ac wedi iddo gau'r llyfr, a'i roddi i'r gweinidog, efe a eisteddodd. A llygaid pawb oll yn y synagog oedd yn craffu arno.

21. Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Heddiw y cyflawnwyd yr ysgrythur hon yn eich clustiau chwi.

22. Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yr oeddynt yn rhyfeddu am y geiriau grasusol a ddeuai allan o'i enau ef. A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw mab Joseff?

23. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn hollol y dywedwch y ddihareb hon wrthyf, Y meddyg, iachâ di dy hun: y pethau a glywsom ni eu gwneuthur yng Nghapernaum, gwna yma hefyd yn dy wlad dy hun.

24. Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nad yw un proffwyd yn gymeradwy yn ei wlad ei hun.

25. Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi, Llawer o wragedd gweddwon oedd yn Israel yn nyddiau Eleias, pan gaewyd y nef dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr trwy'r holl dir;

26. Ac nid at yr un ohonynt yr anfonwyd Eleias, ond i Sarepta yn Sidon, at wraig weddw.

27. A llawer o wahangleifion oedd yn Israel yn amser Eliseus y proffwyd; ac ni lanhawyd yr un ohonynt, ond Naaman y Syriad.

28. A'r rhai oll yn y synagog, wrth glywed y pethau hyn, a lanwyd o ddigofaint;

29. Ac a godasant i fyny, ac a'i bwriasant ef allan o'r ddinas, ac a'i dygasant ef hyd ar ael y bryn yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno, ar fedr ei fwrw ef bendramwnwgl i lawr.

30. Ond efe, gan fyned trwy eu canol hwynt, a aeth ymaith;

31. Ac a ddaeth i waered i Gapernaum, dinas yng Ngalilea: ac yr oedd yn eu dysgu hwynt ar y dyddiau Saboth.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 4