Hen Destament

Testament Newydd

Luc 3:3-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Ac efe a ddaeth i bob goror ynghylch yr Iorddonen, gan bregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau;

4. Fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr ymadroddion Eseias y proffwyd, yr hwn sydd yn dywedyd, Llef un yn llefain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch ei lwybrau ef yn union.

5. Pob pant a lenwir, a phob mynydd a bryn a ostyngir, a'r gŵyrgeimion a wneir yn union, a'r geirwon yn ffyrdd gwastad:

6. A phob cnawd a wêl iachawdwriaeth Duw.

7. Am hynny efe a ddywedodd wrth y bobl oedd yn dyfod i'w bedyddio ganddo, O genhedlaeth gwiberod, pwy a'ch rhagrybuddiodd chwi i ffoi oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod?

8. Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch; ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw o'r cerrig hyn godi plant i Abraham.

9. Ac yr awr hon y mae'r fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny a'r nid yw yn dwyn ffrwyth da, a gymynir i lawr, ac a fwrir yn tân.

10. A'r bobloedd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Pa beth gan hynny a wnawn ni?

11. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo ddwy bais, rhodded i'r neb sydd heb yr un; a'r neb sydd ganddo fwyd, gwnaed yr un modd.

12. A'r publicanod hefyd a ddaethant i'w bedyddio, ac a ddywedasant wrtho, Athro, beth a wnawn ni?

Darllenwch bennod gyflawn Luc 3