Hen Destament

Testament Newydd

Luc 3:15-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Ac fel yr oedd y bobl yn disgwyl, a phawb yn meddylied yn eu calonnau am Ioan, ai efe oedd y Crist;

16. Ioan a atebodd, gan ddywedyd wrthynt oll, Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr: ond y mae un cryfach na myfi yn dyfod, yr hwn nid wyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgidiau: efe a'ch bedyddia chwi â'r Ysbryd Glân, ac â thân.

17. Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl y gwenith i'w ysgubor; ond yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.

18. A llawer o bethau eraill a gynghorodd efe, ac a bregethodd i'r bobl.

19. Ond Herod y tetrarch, pan geryddwyd ef ganddo am Herodias gwraig Philip ei frawd, ac am yr holl ddrygioni a wnaethai Herod,

20. A chwanegodd hyn hefyd heblaw'r cwbl, ac a gaeodd ar Ioan yn y carchar.

21. A bu, pan oeddid yn bedyddio'r holl bobl, a'r Iesu yn ei fedyddio hefyd, ac yn gweddïo, agoryd y nef,

22. A disgyn o'r Ysbryd Glân mewn rhith corfforol, megis colomen, arno ef; a dyfod llef o'r nef yn dywedyd, Ti yw fy annwyl Fab; ynot ti y'm bodlonwyd.

23. A'r Iesu ei hun oedd ynghylch dechrau ei ddengmlwydd ar hugain oed, mab (fel y tybid) i Joseff, fab Eli,

24. Fab Mathat, fab Lefi, fab Melchi, fab Janna, fab Joseff,

25. Fab Matathias, fab Amos, fab Naum, fab Esli, fab Naggai,

26. Fab Maath, fab Matathias, fab Semei, fab Joseff, fab Jwda,

27. Fab Joanna, fab Rhesa, fab Sorobabel, fab Salathiel, fab Neri,

28. Fab Melchi, fab Adi, fab Cosam, fab Elmodam, fab Er,

29. Fab Jose, fab Elieser, fab Jorim, fab Mathat, fab Lefi,

30. Fab Simeon, fab Jwda, fab Joseff, fab Jonan, fab Eliacim,

31. Fab Melea, fab Mainan, fab Matatha, fab Nathan, fab Dafydd,

32. Fab Jesse, fab Obed, fab Boos, fab Salmon, fab Naason,

Darllenwch bennod gyflawn Luc 3