28. A dywedodd Pedr, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a'th ganlynasom di.
29. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu rieni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn teyrnas Dduw,
30. A'r ni dderbyn lawer cymaint yn y pryd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragwyddol.
31. Ac efe a gymerodd y deuddeg ato, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a chyflawnir pob peth a'r sydd yn ysgrifenedig trwy'r proffwydi am Fab y dyn.
32. Canys efe a draddodir i'r Cenhedloedd, ac a watwerir, ac a amherchir, ac a boerir arno:
33. Ac wedi iddynt ei fflangellu, y lladdant ef: a'r trydydd dydd efe a atgyfyd.
34. A hwy ni ddeallasant ddim o'r pethau hyn; a'r gair hwn oedd guddiedig oddi wrthynt, ac ni wybuant y pethau a ddywedwyd.
35. A bu, ac efe yn nesáu at Jericho, i ryw ddyn dall fod yn eistedd yn ymyl y ffordd yn cardota:
36. A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio, efe a ofynnodd pa beth oedd hyn.
37. A hwy a ddywedasant iddo, Mai Iesu o Nasareth oedd yn myned heibio.
38. Ac efe a lefodd, gan ddywedyd, Iesu, Mab Dafydd, trugarha wrthyf.
39. A'r rhai oedd yn myned o'r blaen a'i ceryddasant ef i dewi: eithr efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarha wrthyf.
40. A'r Iesu a safodd, ac a orchmynnodd ei ddwyn ef ato. A phan ddaeth efe yn agos, efe a ofynnodd iddo,
41. Gan ddywedyd, Pa beth a fynni di i mi ei wneuthur i ti? Yntau a ddywedodd, Arglwydd, cael ohonof fy ngolwg.