19. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos ymaith: dy ffydd a'th iachaodd.
20. A phan ofynnodd y Phariseaid iddo, pa bryd y deuai teyrnas Dduw, efe a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Ni ddaw teyrnas Dduw wrth ddisgwyl.
21. Ac ni ddywedant, Wele yma; neu, Wele acw: canys wele, teyrnas Dduw, o'ch mewn chwi y mae.
22. Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Y dyddiau a ddaw pan chwenychoch weled un o ddyddiau Mab y dyn, ac nis gwelwch.
23. A hwy a ddywedant wrthych, Wele yma; neu, Wele acw: nac ewch, ac na chanlynwch hwynt.
24. Canys megis y mae'r fellten a felltenna o'r naill ran dan y nef, yn disgleirio hyd y rhan arall dan y nef; felly y bydd Mab y dyn hefyd yn ei ddydd ef.
25. Eithr yn gyntaf rhaid iddo ddioddef llawer, a'i wrthod gan y genhedlaeth hon.
26. Ac megis y bu yn nyddiau Noe, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y dyn.
27. Yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn gwreica, yn gwra hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i'r arch; a daeth y dilyw, ac a'u difethodd hwynt oll.
28. Yr un modd hefyd ag y bu yn nyddiau Lot: yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu;
29. Eithr y dydd yr aeth Lot allan o Sodom, y glawiodd tân a brwmstan o'r nef, ac a'u difethodd hwynt oll:
30. Fel hyn y bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn.
31. Yn y dydd hwnnw y neb a fyddo ar ben y tŷ, a'i ddodrefn o fewn y tŷ, na ddisgynned i'w cymryd hwynt; a'r hwn a fyddo yn y maes, yr un ffunud na ddychweled yn ei ôl.