Hen Destament

Testament Newydd

Luc 17:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Ni all na ddêl rhwystrau: ond gwae efe trwy'r hwn y deuant!

2. Gwell fyddai iddo pe rhoddid maen melin o amgylch ei wddf ef, a'i daflu i'r môr, nag iddo rwystro un o'r rhai bychain hyn.

3. Edrychwch arnoch eich hunain. Os pecha dy frawd yn dy erbyn, cerydda ef; ac os edifarha efe, maddau iddo.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 17