6. A phan ddêl adref, efe a eilw ynghyd ei gyfeillion a'i gymdogion, gan ddywedyd wrthynt, Llawenhewch gyda mi; canys cefais fy nafad a gollasid.
7. Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai felly y bydd llawenydd yn y nef am un pechadur a edifarhao, mwy nag am onid un pum ugain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch.
8. Neu pa wraig a chanddi ddeg dryll o arian, os cyll hi un dryll, ni olau gannwyll, ac ysgubo'r tŷ, a cheisio yn ddyfal, hyd onis caffo ef?
9. Ac wedi iddi ei gael, hi a eilw ynghyd ei chyfeillesau a'i chymdogesau, gan ddywedyd, Cydlawenhewch â mi; canys cefais y dryll a gollaswn.
10. Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yng ngŵydd angylion Duw am un pechadur a edifarhao.
11. Ac efe a ddywedodd, Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab:
12. A'r ieuangaf ohonynt a ddywedodd wrth ei dad, Fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o'r da. Ac efe a rannodd iddynt ei fywyd.
13. Ac ar ôl ychydig ddyddiau y mab ieuangaf a gasglodd y cwbl ynghyd, ac a gymerth ei daith i wlad bell; ac yno efe a wasgarodd ei dda, gan fyw yn afradlon.
14. Ac wedi iddo dreulio'r cwbl, y cododd newyn mawr trwy'r wlad honno; ac yntau a ddechreuodd fod mewn eisiau.
15. Ac efe a aeth, ac a lynodd wrth un o ddinaswyr y wlad honno; ac efe a'i hanfonodd ef i'w feysydd i borthi moch.
16. Ac efe a chwenychai lenwi ei fol â'r cibau a fwytâi'r moch; ac ni roddodd neb iddo.
17. A phan ddaeth ato ei hun, efe a ddywedodd, Pa sawl gwas cyflog o'r eiddo fy nhad sydd yn cael eu gwala a'u gweddill o fara, a minnau yn marw o newyn?
18. Mi a godaf, ac a af at fy nhad, ac a ddywedaf wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o'th flaen dithau;