13. Ac ar ôl ychydig ddyddiau y mab ieuangaf a gasglodd y cwbl ynghyd, ac a gymerth ei daith i wlad bell; ac yno efe a wasgarodd ei dda, gan fyw yn afradlon.
14. Ac wedi iddo dreulio'r cwbl, y cododd newyn mawr trwy'r wlad honno; ac yntau a ddechreuodd fod mewn eisiau.
15. Ac efe a aeth, ac a lynodd wrth un o ddinaswyr y wlad honno; ac efe a'i hanfonodd ef i'w feysydd i borthi moch.
16. Ac efe a chwenychai lenwi ei fol â'r cibau a fwytâi'r moch; ac ni roddodd neb iddo.
17. A phan ddaeth ato ei hun, efe a ddywedodd, Pa sawl gwas cyflog o'r eiddo fy nhad sydd yn cael eu gwala a'u gweddill o fara, a minnau yn marw o newyn?
18. Mi a godaf, ac a af at fy nhad, ac a ddywedaf wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o'th flaen dithau;
19. Ac mwyach nid ydwyf deilwng i'm galw yn fab i ti: gwna fi fel un o'th weision cyflog.
20. Ac efe a gododd, ac a aeth at ei dad. A phan oedd efe eto ymhell oddi wrtho, ei dad a'i canfu ef, ac a dosturiodd, ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a'i cusanodd.
21. A'r mab a ddywedodd wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o'th flaen dithau; ac nid ydwyf mwy deilwng i'm galw yn fab i ti.
22. A'r tad a ddywedodd wrth ei weision, Dygwch allan y wisg orau, a gwisgwch amdano ef, a rhoddwch fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed:
23. A dygwch y llo pasgedig, a lleddwch ef; a bwytawn, a byddwn lawen.
24. Canys fy mab hwn oedd farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac efe a gollesid, ac a gaed. A hwy a ddechreuasant fod yn llawen.
25. Ac yr oedd ei fab hynaf ef yn y maes; a phan ddaeth efe a nesáu at y tŷ, efe a glywai gynghanedd a dawnsio.
26. Ac wedi iddo alw un o'r gweision, efe a ofynnodd beth oedd hyn.
27. Yntau a ddywedodd wrtho, Dy frawd a ddaeth; a'th dad a laddodd y llo pasgedig, am iddo ei dderbyn ef yn iach.