Hen Destament

Testament Newydd

Luc 14:15-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. A phan glywodd rhyw un o'r rhai oedd yn eistedd ar y bwrdd y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho, Gwyn ei fyd y neb a fwytao fara yn nheyrnas Dduw.

16. Ac yntau a ddywedodd wrtho, Rhyw ŵr a wnaeth swper mawr, ac a wahoddodd lawer:

17. Ac a ddanfonodd ei was bryd swper, i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid, Deuwch; canys weithian y mae pob peth yn barod.

18. A hwy oll a ddechreuasant yn unfryd ymesgusodi. Y cyntaf a ddywedodd wrtho, Mi a brynais dyddyn, ac y mae'n rhaid i mi fyned a'i weled: atolwg i ti, cymer fi yn esgusodol.

19. Ac arall a ddywedodd, Mi a brynais bum iau o ychen, ac yr ydwyf yn myned i'w profi hwynt: atolwg i ti, cymer fi yn esgusodol.

20. Ac arall a ddywedodd, Mi a briodais wraig; ac am hynny nis gallaf fi ddyfod.

21. A'r gwas hwnnw, pan ddaeth adref, a fynegodd y pethau hyn i'w arglwydd. Yna gŵr y tŷ, wedi digio, a ddywedodd wrth ei was, Dos allan ar frys i heolydd ac ystrydoedd y ddinas, a dwg i mewn yma y tlodion, a'r anafus, a'r cloffion, a'r deillion.

22. A'r gwas a ddywedodd, Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchmynnaist; ac eto y mae lle.

23. A'r arglwydd a ddywedodd wrth y gwas, Dos allan i'r priffyrdd a'r caeau, a chymell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhŷ.

24. Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, na chaiff yr un o'r gwŷr hynny a wahoddwyd, brofi o'm swper i.

25. A llawer o bobl a gydgerddodd ag ef: ac efe a droes, ac a ddywedodd wrthynt,

26. Os daw neb ataf fi, ac ni chasao ei dad, a'i fam, a'i wraig, a'i blant, a'i frodyr, a'i chwiorydd, ie, a'i einioes ei hun hefyd, ni all efe fod yn ddisgybl i mi.

27. A phwy bynnag ni ddyco ei groes, a dyfod ar fy ôl i, ni all efe fod yn ddisgybl i mi.

28. Canys pwy ohonoch chwi â'i fryd ar adeiladu tŵr, nid eistedd yn gyntaf, a bwrw'r draul, a oes ganddo a'i gorffenno?

Darllenwch bennod gyflawn Luc 14