A'r gwas hwnnw, pan ddaeth adref, a fynegodd y pethau hyn i'w arglwydd. Yna gŵr y tŷ, wedi digio, a ddywedodd wrth ei was, Dos allan ar frys i heolydd ac ystrydoedd y ddinas, a dwg i mewn yma y tlodion, a'r anafus, a'r cloffion, a'r deillion.