Hen Destament

Testament Newydd

Luc 12:3-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Am hynny pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y golau; a'r peth a ddywedasoch yn y glust mewn ystafelloedd, a bregethir ar bennau tai.

4. Ac yr wyf yn dywedyd wrthych, fy nghyfeillion, Nac ofnwch y rhai sydd yn lladd y corff, ac wedi hynny heb ganddynt ddim mwy i'w wneuthur.

5. Ond rhagddangosaf i chwi pwy a ofnwch: Ofnwch yr hwn, wedi y darffo iddo ladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern; ie, meddaf i chwi, Hwnnw a ofnwch.

6. Oni werthir pump o adar y to er dwy ffyrling? ac nid oes un ohonynt mewn angof gerbron Duw:

7. Ond y mae hyd yn oed blew eich pennau chwi yn gyfrifedig oll. Am hynny nac ofnwch: yr ydych chwi yn well na llawer o adar y to.

8. Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a'm haddefo i gerbron dynion, Mab y dyn hefyd a'i haddef yntau gerbron angylion Duw.

9. A'r hwn a'm gwado i gerbron dynion, a wedir gerbron angylion Duw.

10. A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: eithr i'r neb a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni faddeuir.

11. A phan y'ch dygant i'r synagogau, ac at y llywiawdwyr, a'r awdurdodau, na ofelwch pa fodd, neu pa beth a ateboch, neu beth a ddywedoch:

12. Canys yr Ysbryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno beth sydd raid ei ddywedyd.

13. A rhyw un o'r dyrfa a ddywedodd wrtho, Athro, dywed wrth fy mrawd am rannu â myfi yr etifeddiaeth.

14. Yntau a ddywedodd wrtho, Y dyn, pwy a'm gosododd i yn farnwr neu yn rhannwr arnoch chwi?

15. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch, ac ymogelwch rhag cybydd‐dod: canys nid yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethau sydd ganddo.

16. Ac efe a draethodd wrthynt ddameg, gan ddywedyd, Tir rhyw ŵr goludog a gnydiodd yn dda.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 12