Hen Destament

Testament Newydd

Luc 12:16-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Ac efe a draethodd wrthynt ddameg, gan ddywedyd, Tir rhyw ŵr goludog a gnydiodd yn dda.

17. Ac efe a ymresymodd ynddo'i hun, gan ddywedyd, Beth a wnaf, am nad oes gennyf le i gasglu fy ffrwythau iddo?

18. Ac efe a ddywedodd, Hyn a wnaf: Mi a dynnaf i lawr fy ysguboriau, ac a adeiladaf rai mwy; ac yno y casglaf fy holl ffrwythau, a'm da.

19. A dywedaf wrth fy enaid, Fy enaid, y mae gennyt dda lawer wedi eu rhoi i gadw dros lawer o flynyddoedd: gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen.

20. Eithr Duw a ddywedodd wrtho, O ynfyd, y nos hon y gofynnant dy enaid oddi wrthyt; ac eiddo pwy fydd y pethau a baratoaist?

21. Felly y mae'r hwn sydd yn trysori iddo'i hun, ac nid yw gyfoethog tuag at Dduw.

22. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Am hyn yr wyf yn dywedyd wrthych, Na chymerwch ofal am eich bywyd, beth a fwytaoch; nac am eich corff, beth a wisgoch.

23. Y mae'r bywyd yn fwy na'r ymborth, a'r corff yn fwy na'r dillad.

24. Ystyriwch y brain: canys nid ydynt yn hau nac yn medi; i'r rhai nid oes gell nac ysgubor; ac y mae Duw yn eu porthi hwynt: o ba faint mwy yr ydych chwi yn well na'r adar?

25. A phwy ohonoch, gan gymryd gofal, a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli?

26. Am hynny, oni ellwch wneuthur y peth lleiaf, paham yr ydych yn cymryd gofal am y lleill?

27. Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio, nac yn nyddu: ac yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o'r rhai hyn.

28. Ac os yw Duw felly yn dilladu'r llysieuyn, yr hwn sydd heddiw yn y maes, ac yfory a deflir i'r ffwrn: pa faint mwy y dillada efe chwychwi, O rai o ychydig ffydd?

29. Chwithau na cheisiwch beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch; ac na fyddwch amheus.

30. Canys y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tad chwi yn gwybod fod arnoch chwi eisiau'r pethau hyn.

31. Yn hytrach ceisiwch deyrnas Dduw; a'r pethau hyn oll a roddir i chwi yn chwaneg.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 12