Hen Destament

Testament Newydd

Luc 11:33-45 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

33. Ac nid yw neb wedi golau cannwyll, yn ei gosod mewn lle dirgel, na than lestr; eithr ar ganhwyllbren, fel y gallo'r rhai a ddelo i mewn weled y goleuni.

34. Cannwyll y corff yw'r llygad: am hynny pan fyddo dy lygad yn syml, dy holl gorff hefyd fydd olau; ond pan fyddo dy lygad yn ddrwg, dy gorff hefyd fydd tywyll.

35. Edrych am hynny rhag i'r goleuni sydd ynot fod yn dywyllwch.

36. Os dy holl gorff gan hynny sydd olau, heb un rhan dywyll ynddo, bydd y cwbl yn olau, megis pan fo cannwyll â'i llewyrch yn dy oleuo di.

37. Ac fel yr oedd efe yn llefaru, rhyw Pharisead a ddymunodd arno giniawa gydag ef. Ac wedi iddo ddyfod i mewn, efe a eisteddodd i fwyta.

38. A'r Pharisead pan welodd, a ryfeddodd nad ymolchasai efe yn gyntaf o flaen cinio.

39. A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Yn awr chwychwi y Phariseaid ydych yn glanhau'r tu allan i'r cwpan a'r ddysgl; ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni.

40. O ynfydion, onid yr hwn a wnaeth yr hyn sydd oddi allan, a wnaeth yr hyn sydd oddi fewn hefyd?

41. Yn hytrach rhoddwch elusen o'r pethau sydd gennych: ac wele, pob peth sydd lân i chwi.

42. Eithr gwae chwi'r Phariseaid! canys yr ydych chwi yn degymu'r mintys, a'r ryw, a phob llysieuyn, ac yn myned heibio i farn a chariad Duw. Y pethau hyn oedd raid eu gwneuthur, ac na adewid y lleill heb wneuthur.

43. Gwae chwi'r Phariseaid! canys yr ydych yn caru'r prif gadeiriau yn y synagogau, a chyfarch yn y marchnadoedd.

44. Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! am eich bod fel beddau anamlwg, a'r dynion a rodiant arnynt heb wybod oddi wrthynt.

45. Ac un o'r cyfreithwyr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Athro, wrth ddywedyd hyn, yr wyt ti yn ein gwaradwyddo ninnau hefyd.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 11