Hen Destament

Testament Newydd

Luc 11:27-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. A bu, fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, rhyw wraig o'r dyrfa a gododd ei llef, ac a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd y groth a'th ddug di, a'r bronnau a sugnaist.

28. Ond efe a ddywedodd, Yn hytrach gwyn fyd y rhai sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei gadw.

29. Ac wedi i'r bobloedd ymdyrru ynghyd, efe a ddechreuodd ddywedyd, Y genhedlaeth hon sydd ddrwg: y mae hi yn ceisio arwydd; ac arwydd ni roddir iddi, ond arwydd Jonas y proffwyd:

30. Canys fel y bu Jonas yn arwydd i'r Ninefeaid, felly y bydd Mab y dyn hefyd i'r genhedlaeth hon.

31. Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda gwŷr y genhedlaeth hon, ac a'u condemnia hwynt; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i wrando doethineb Solomon: ac wele un mwy na Solomon yma.

32. Gwŷr Ninefe a godant i fyny yn y farn gyda'r genhedlaeth hon, ac a'i condemniant hi; am iddynt edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele un mwy na Jonas yma.

33. Ac nid yw neb wedi golau cannwyll, yn ei gosod mewn lle dirgel, na than lestr; eithr ar ganhwyllbren, fel y gallo'r rhai a ddelo i mewn weled y goleuni.

34. Cannwyll y corff yw'r llygad: am hynny pan fyddo dy lygad yn syml, dy holl gorff hefyd fydd olau; ond pan fyddo dy lygad yn ddrwg, dy gorff hefyd fydd tywyll.

35. Edrych am hynny rhag i'r goleuni sydd ynot fod yn dywyllwch.

36. Os dy holl gorff gan hynny sydd olau, heb un rhan dywyll ynddo, bydd y cwbl yn olau, megis pan fo cannwyll â'i llewyrch yn dy oleuo di.

37. Ac fel yr oedd efe yn llefaru, rhyw Pharisead a ddymunodd arno giniawa gydag ef. Ac wedi iddo ddyfod i mewn, efe a eisteddodd i fwyta.

38. A'r Pharisead pan welodd, a ryfeddodd nad ymolchasai efe yn gyntaf o flaen cinio.

39. A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Yn awr chwychwi y Phariseaid ydych yn glanhau'r tu allan i'r cwpan a'r ddysgl; ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 11