Hen Destament

Testament Newydd

Luc 11:15-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Eithr rhai ohonyn a ddywedasant, Trwy Beelsebub, pennaeth y cythreuliaid, y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid.

16. Ac eraill, gan ei demtio, a geisiasant ganddo arwydd o'r nef.

17. Yntau, yn gwybod eu meddyliau hwynt, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanheddir; a thŷ yn erbyn tŷ, a syrth.

18. Ac os Satan hefyd sydd wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas ef? gan eich bod yn dywedyd, mai trwy Beelsebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid.

19. Ac os trwy Beelsebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi.

20. Eithr os myfi trwy fys Duw ydwyf yn bwrw allan gythreuliaid, diamau ddyfod teyrnas Dduw atoch chwi.

21. Pan fyddo un cryf arfog yn cadw ei neuadd, y mae'r hyn sydd ganddo mewn heddwch:

22. Ond pan ddêl un cryfach nag ef arno, a'i orchfygu, efe a ddwg ymaith ei holl arfogaeth ef yn yr hon yr oedd yn ymddiried, ac a ran ei anrhaith ef.

23. Y neb nid yw gyda mi, sydd yn fy erbyn: a'r neb nid yw yn casglu gyda mi, sydd yn gwasgaru.

24. Pan êl yr ysbryd aflan allan o ddyn, efe a rodia mewn lleoedd sychion, gan geisio gorffwystra: a phryd na chaffo, efe a ddywed, Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r lle y deuthum allan.

25. A phan ddêl, y mae yn ei gael wedi ei ysgubo a'i drefnu.

26. Yna yr â efe, ac y cymer ato saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun; a hwy a ânt i mewn, ac a arhosant yno: a diwedd y dyn hwnnw fydd gwaeth na'i ddechreuad.

27. A bu, fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, rhyw wraig o'r dyrfa a gododd ei llef, ac a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd y groth a'th ddug di, a'r bronnau a sugnaist.

28. Ond efe a ddywedodd, Yn hytrach gwyn fyd y rhai sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei gadw.

29. Ac wedi i'r bobloedd ymdyrru ynghyd, efe a ddechreuodd ddywedyd, Y genhedlaeth hon sydd ddrwg: y mae hi yn ceisio arwydd; ac arwydd ni roddir iddi, ond arwydd Jonas y proffwyd:

30. Canys fel y bu Jonas yn arwydd i'r Ninefeaid, felly y bydd Mab y dyn hefyd i'r genhedlaeth hon.

31. Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda gwŷr y genhedlaeth hon, ac a'u condemnia hwynt; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i wrando doethineb Solomon: ac wele un mwy na Solomon yma.

32. Gwŷr Ninefe a godant i fyny yn y farn gyda'r genhedlaeth hon, ac a'i condemniant hi; am iddynt edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele un mwy na Jonas yma.

33. Ac nid yw neb wedi golau cannwyll, yn ei gosod mewn lle dirgel, na than lestr; eithr ar ganhwyllbren, fel y gallo'r rhai a ddelo i mewn weled y goleuni.

34. Cannwyll y corff yw'r llygad: am hynny pan fyddo dy lygad yn syml, dy holl gorff hefyd fydd olau; ond pan fyddo dy lygad yn ddrwg, dy gorff hefyd fydd tywyll.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 11