1. A bu, ac efe mewn rhyw fan yn gweddïo, pan beidiodd, ddywedyd o un o'i ddisgyblion wrtho, Arglwydd, dysg i ni weddïo, megis ag y dysgodd Ioan i'w ddisgyblion.
2. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan weddïoch, dywedwch, Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw. Deued dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
3. Dyro i ni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol.
4. A maddau i ni ein pechodau: canys yr ydym ninnau yn maddau i bawb sydd yn ein dyled. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg.
5. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy ohonoch fydd iddo gyfaill, ac a â ato hanner nos, ac a ddywed wrtho, O gyfaill, moes i mi dair torth yn echwyn;
6. Canys cyfaill i mi a ddaeth ataf wrth ymdaith, ac nid oes gennyf ddim i'w ddodi ger ei fron ef:
7. Ac yntau oddi mewn a etyb ac a ddywed, Na flina fi: yn awr y mae'r drws yn gaead, a'm plant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi a'u rhoddi i ti.
8. Yr wyf yn dywedyd i chwi, Er na chyfyd efe a rhoddi iddo, am ei fod yn gyfaill iddo; eto oherwydd ei daerni, efe a gyfyd, ac a rydd iddo gynifer ag y sydd arno eu heisiau.
9. Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe a agorir i chwi.
10. Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a'r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i'r hwn sydd yn curo, yr agorir.
11. Os bara a ofyn mab i un ohonoch chwi sydd dad, a ddyry efe garreg iddo? ac os pysgodyn, a ddyry efe iddo sarff yn lle pysgodyn?
12. Neu os gofyn efe wy, a ddyry efe ysgorpion iddo?
13. Os chwychwi gan hynny, y rhai ydych ddrwg, a fedrwch roi rhoddion da i'ch plant chwi; pa faint mwy y rhydd eich Tad o'r nef yr Ysbryd Glân i'r rhai a ofynno ganddo?
14. Ac yr oedd efe yn bwrw allan gythraul, a hwnnw oedd fud. A bu, wedi i'r cythraul fyned allan, i'r mudan lefaru: a'r bobloedd a ryfeddasant.
15. Eithr rhai ohonyn a ddywedasant, Trwy Beelsebub, pennaeth y cythreuliaid, y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid.
16. Ac eraill, gan ei demtio, a geisiasant ganddo arwydd o'r nef.