Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 15:20-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych; Nid yw'r gwas yn fwy na'i arglwydd. Os erlidiasant fi, hwy a'ch erlidiant chwithau: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant.

21. Eithr hyn oll a wnânt i chwi er mwyn fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a'm hanfonodd i.

22. Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod: ond yr awron nid oes ganddynt esgus am eu pechod.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 15