Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21

Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Myfi yw'r wir winwydden, a'm Tad yw'r llafurwr.

2. Pob cangen ynof fi heb ddwyn ffrwyth, y mae efe yn ei thynnu ymaith: a phob un a ddygo ffrwyth, y mae efe yn ei glanhau, fel y dygo fwy o ffrwyth.

3. Yr awron yr ydych chwi yn lân trwy'r gair a leferais i wrthych.

4. Arhoswch ynof fi, a mi ynoch chwi. Megis na all y gangen ddwyn ffrwyth ohoni ei hun, onid erys yn y winwydden; felly ni ellwch chwithau, onid arhoswch ynof fi.

5. Myfi yw'r winwydden, chwithau yw'r canghennau. Yr hwn sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau, hwnnw sydd yn dwyn ffrwyth lawer: oblegid hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim.

6. Onid erys un ynof fi, efe a daflwyd allan megis cangen, ac a wywodd; ac y maent yn eu casglu hwynt, ac yn eu bwrw yn tân, a hwy a losgir.

7. Os arhoswch ynof fi, ac aros o'm geiriau ynoch, beth bynnag a ewyllysioch, gofynnwch, ac efe a fydd i chwi.

8. Yn hyn y gogoneddwyd fy Nhad, ar ddwyn ohonoch ffrwyth lawer; a disgyblion fyddwch i mi.

9. Fel y carodd y Tad fi, felly y cerais innau chwithau: arhoswch yn fy nghariad i.

10. Os cedwch fy ngorchmynion, chwi a arhoswch yn fy nghariad; fel y cedwais i orchmynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef.

11. Hyn a ddywedais wrthych, fel yr arhosai fy llawenydd ynoch, ac y byddai eich llawenydd yn gyflawn.

12. Dyma fy ngorchymyn i; Ar i chwi garu eich gilydd, fel y cerais i chwi.

13. Cariad mwy na hwn nid oes gan neb; sef, bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion.

14. Chwychwi yw fy nghyfeillion, os gwnewch pa bethau bynnag yr wyf yn eu gorchymyn i chwi.

15. Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision; oblegid y gwas ni ŵyr beth y mae ei arglwydd yn ei wneuthur: ond mi a'ch gelwais chwi yn gyfeillion; oblegid pob peth a'r a glywais gan fy Nhad, a hysbysais i chwi.

16. Nid chwi a'm dewisasoch i, ond myfi a'ch dewisais chwi, ac a'ch ordeiniais chwi, fel yr elech ac y dygech ffrwyth, ac yr arhosai eich ffrwyth; megis pa beth bynnag a ofynnoch gan y Tad yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi.

17. Hyn yr wyf yn ei orchymyn i chwi, garu ohonoch eich gilydd.

18. Os yw'r byd yn eich casáu chwi, chwi a wyddoch gasáu ohono fyfi o'ch blaen chwi.

19. Pe byddech o'r byd, y byd a garai'r eiddo; ond oblegid nad ydych o'r byd, eithr i mi eich dewis allan o'r byd, am hynny y mae'r byd yn eich casáu chwi.

20. Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych; Nid yw'r gwas yn fwy na'i arglwydd. Os erlidiasant fi, hwy a'ch erlidiant chwithau: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant.

21. Eithr hyn oll a wnânt i chwi er mwyn fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a'm hanfonodd i.

22. Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod: ond yr awron nid oes ganddynt esgus am eu pechod.

23. Yr hwn sydd yn fy nghasáu i, sydd yn casáu fy Nhad hefyd.

24. Oni bai wneuthur ohonof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall, ni buasai arnynt bechod: ond yr awron hwy a welsant, ac a'm casasant i a'm Tad hefyd.

25. Eithr, fel y cyflawnid y gair sydd ysgrifenedig yn eu cyfraith hwynt, Hwy a'm casasant yn ddiachos.

26. Eithr pan ddêl y Diddanydd, yr hwn a anfonaf i chwi oddi wrth y Tad, (sef Ysbryd y gwirionedd, yr hwn sydd yn deillio oddi wrth y Tad,) efe a dystiolaetha amdanaf fi.

27. A chwithau hefyd a dystiolaethwch, am eich bod o'r dechreuad gyda mi.