Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 15:19-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Pe byddech o'r byd, y byd a garai'r eiddo; ond oblegid nad ydych o'r byd, eithr i mi eich dewis allan o'r byd, am hynny y mae'r byd yn eich casáu chwi.

20. Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych; Nid yw'r gwas yn fwy na'i arglwydd. Os erlidiasant fi, hwy a'ch erlidiant chwithau: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant.

21. Eithr hyn oll a wnânt i chwi er mwyn fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a'm hanfonodd i.

22. Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod: ond yr awron nid oes ganddynt esgus am eu pechod.

23. Yr hwn sydd yn fy nghasáu i, sydd yn casáu fy Nhad hefyd.

24. Oni bai wneuthur ohonof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall, ni buasai arnynt bechod: ond yr awron hwy a welsant, ac a'm casasant i a'm Tad hefyd.

25. Eithr, fel y cyflawnid y gair sydd ysgrifenedig yn eu cyfraith hwynt, Hwy a'm casasant yn ddiachos.

26. Eithr pan ddêl y Diddanydd, yr hwn a anfonaf i chwi oddi wrth y Tad, (sef Ysbryd y gwirionedd, yr hwn sydd yn deillio oddi wrth y Tad,) efe a dystiolaetha amdanaf fi.

27. A chwithau hefyd a dystiolaethwch, am eich bod o'r dechreuad gyda mi.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 15