12. Dyma fy ngorchymyn i; Ar i chwi garu eich gilydd, fel y cerais i chwi.
13. Cariad mwy na hwn nid oes gan neb; sef, bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion.
14. Chwychwi yw fy nghyfeillion, os gwnewch pa bethau bynnag yr wyf yn eu gorchymyn i chwi.
15. Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision; oblegid y gwas ni ŵyr beth y mae ei arglwydd yn ei wneuthur: ond mi a'ch gelwais chwi yn gyfeillion; oblegid pob peth a'r a glywais gan fy Nhad, a hysbysais i chwi.
16. Nid chwi a'm dewisasoch i, ond myfi a'ch dewisais chwi, ac a'ch ordeiniais chwi, fel yr elech ac y dygech ffrwyth, ac yr arhosai eich ffrwyth; megis pa beth bynnag a ofynnoch gan y Tad yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi.