Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 14:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Na thralloder eich calon: yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynof finnau hefyd.

2. Yn nhÅ· fy Nhad y mae llawer o drigfannau: a phe amgen, mi a ddywedaswn i chwi. Yr wyf fi yn myned i baratoi lle i chwi.

3. Ac os myfi a af, ac a baratoaf le i chwi, mi a ddeuaf drachefn, ac a'ch cymeraf chwi ataf fy hun; fel lle yr wyf fi, y byddoch chwithau hefyd.

4. Ac i ba le yr wyf fi yn myned, chwi a wyddoch, a'r ffordd a wyddoch.

5. Dywedodd Thomas wrtho, Arglwydd, ni wyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned; a pha fodd y gallwn wybod y ffordd?

6. Yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Myfi yw'r ffordd, a'r gwirionedd, a'r bywyd: nid yw neb yn dyfod at y Tad, ond trwof fi.

7. Ped adnabuasech fi, fy Nhad hefyd a adnabuasech: ac o hyn allan yr adwaenoch ef, a chwi a'i gwelsoch ef.

8. Dywedodd Philip wrtho, Arglwydd, dangos i ni y Tad, a digon yw i ni.

9. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, A ydwyf gyhyd o amser gyda chwi, ac nid adnabuost fi, Philip? Y neb a'm gwelodd i, a welodd y Tad: a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tad?

10. Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof finnau? Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru; ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd.

11. Credwch fi, fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof finnau: ac onid e, credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hunain.

12. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yntau hefyd a'u gwna, a mwy na'r rhai hyn a wna efe: oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhad.

13. A pha beth bynnag a ofynnoch yn fy enw i, hynny a wnaf; fel y gogonedder y Tad yn y Mab.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 14