Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21

Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Na thralloder eich calon: yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynof finnau hefyd.

2. Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau: a phe amgen, mi a ddywedaswn i chwi. Yr wyf fi yn myned i baratoi lle i chwi.

3. Ac os myfi a af, ac a baratoaf le i chwi, mi a ddeuaf drachefn, ac a'ch cymeraf chwi ataf fy hun; fel lle yr wyf fi, y byddoch chwithau hefyd.

4. Ac i ba le yr wyf fi yn myned, chwi a wyddoch, a'r ffordd a wyddoch.

5. Dywedodd Thomas wrtho, Arglwydd, ni wyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned; a pha fodd y gallwn wybod y ffordd?

6. Yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Myfi yw'r ffordd, a'r gwirionedd, a'r bywyd: nid yw neb yn dyfod at y Tad, ond trwof fi.

7. Ped adnabuasech fi, fy Nhad hefyd a adnabuasech: ac o hyn allan yr adwaenoch ef, a chwi a'i gwelsoch ef.

8. Dywedodd Philip wrtho, Arglwydd, dangos i ni y Tad, a digon yw i ni.

9. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, A ydwyf gyhyd o amser gyda chwi, ac nid adnabuost fi, Philip? Y neb a'm gwelodd i, a welodd y Tad: a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tad?

10. Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof finnau? Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru; ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd.

11. Credwch fi, fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof finnau: ac onid e, credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hunain.

12. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yntau hefyd a'u gwna, a mwy na'r rhai hyn a wna efe: oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhad.

13. A pha beth bynnag a ofynnoch yn fy enw i, hynny a wnaf; fel y gogonedder y Tad yn y Mab.

14. Os gofynnwch ddim yn fy enw i, mi a'i gwnaf.

15. O cherwch fi, cedwch fy ngorchmynion.

16. A mi a weddïaf ar y Tad, ac efe a rydd i chwi Ddiddanydd arall, fel yr arhoso gyda chwi yn dragwyddol;

17. Ysbryd y gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adnabod ef: ond chwi a'i hadwaenoch ef; oherwydd y mae yn aros gyda chwi, ac ynoch y bydd efe.

18. Ni'ch gadawaf chwi yn amddifaid: mi a ddeuaf atoch chwi.

19. Eto ennyd bach, a'r byd ni'm gwêl mwy; eithr chwi a'm gwelwch: canys byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd.

20. Y dydd hwnnw y gwybyddwch fy mod i yn fy Nhad, a chwithau ynof fi, a minnau ynoch chwithau.

21. Yr hwn sydd â'm gorchmynion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw'r hwn sydd yn fy ngharu i: a'r hwn sydd yn fy ngharu i, a gerir gan fy Nhad i: a minnau a'i caraf ef, ac a'm hegluraf fy hun iddo.

22. Dywedodd Jwdas wrtho, (nid yr Iscariot,) Arglwydd, pa beth yw'r achos yr wyt ar fedr dy eglurhau dy hun i ni, ac nid i'r byd?

23. Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Os câr neb fi, efe a geidw fy ngair; a'm Tad a'i câr yntau, a nyni a ddeuwn ato, ac a wnawn ein trigfa gydag ef.

24. Yr hwn nid yw yn fy ngharu i, nid yw yn cadw fy ngeiriau: a'r gair yr ydych yn ei glywed, nid eiddof fi ydyw, ond eiddo'r Tad a'm hanfonodd i.

25. Y pethau hyn a ddywedais wrthych, a mi yn aros gyda chwi.

26. Eithr y Diddanydd, yr Ysbryd Glân, yr hwn a enfyn y Tad yn fy enw i, efe a ddysg i chwi'r holl bethau, ac a ddwg ar gof i chwi'r holl bethau a ddywedais i chwi.

27. Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi: nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac nac ofned.

28. Clywsoch fel y dywedais wrthych, Yr wyf yn myned ymaith, ac mi a ddeuaf atoch. Pe carech fi, chwi a lawenhaech am i mi ddywedyd, Yr wyf yn myned at y Tad: canys y mae fy Nhad yn fwy na myfi.

29. Ac yr awron y dywedais i chwi cyn ei ddyfod, fel pan ddêl, y credoch.

30. Nid ymddiddanaf â chwi nemor bellach: canys tywysog y byd hwn sydd yn dyfod, ac nid oes iddo ddim ynof fi.

31. Ond fel y gwypo'r byd fy mod i yn caru'r Tad, ac megis y gorchmynnodd y Tad i mi, felly yr wyf yn gwneuthur. Codwch, awn oddi yma.