Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 1:32-48 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

32. Ac Ioan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Mi a welais yr Ysbryd yn disgyn megis colomen, o'r nef, ac efe a arhosodd arno ef.

33. A myfi nid adwaenwn ef; eithr yr hwn a'm hanfonodd i fedyddio â dwfr, efe a ddywedodd wrthyf, Ar yr hwn y gwelych yr Ysbryd yn disgyn, ac yn aros arno, hwnnw yw'r un sydd yn bedyddio â'r Ysbryd Glân.

34. A mi a welais, ac a dystiolaethais mai hwn yw Mab Duw.

35. Trannoeth drachefn y safodd Ioan, a dau o'i ddisgyblion:

36. A chan edrych ar yr Iesu yn rhodio, efe a ddywedodd, Wele Oen Duw.

37. A'r ddau ddisgybl a'i clywsant ef yn llefaru, ac a ganlynasant yr Iesu.

38. Yna yr Iesu a droes; a phan welodd hwynt yn canlyn, efe a ddywedodd wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei geisio? A hwy a ddywedasant wrtho ef, Rabbi, (yr hyn o'i gyfieithu yw, Athro,) pa le yr wyt ti yn trigo?

39. Efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch, a gwelwch. A hwy a ddaethant, ac a welsant lle yr oedd efe yn trigo, ac a arosasant gydag ef y diwrnod hwnnw: ac yr oedd hi ynghylch y ddegfed awr.

40. Andreas, brawd Simon Pedr, oedd un o'r ddau a glywsent hynny gan Ioan, ac a'i dilynasent ef.

41. Hwn yn gyntaf a gafodd ei frawd ei hun Simon, ac a ddywedodd wrtho, Nyni a gawsom y Meseias; yr hyn o'i ddeongl yw, Y Crist.

42. Ac efe a'i dug ef at yr Iesu. A'r Iesu wedi edrych arno ef, a ddywedodd, Ti yw Simon mab Jona: ti a elwir Ceffas, yr hwn a gyfieithir, Carreg.

43. Trannoeth yr ewyllysiodd yr Iesu fyned allan i Galilea; ac efe a gafodd Philip, ac a ddywedodd wrtho, Dilyn fi.

44. A Philip oedd o Fethsaida, o ddinas Andreas a Phedr.

45. Philip a gafodd Nathanael, ac a ddywedodd wrtho, Cawsom yr hwn yr ysgrifennodd Moses yn y gyfraith, a'r proffwydi, amdano, Iesu o Nasareth, mab Joseff.

46. A Nathanael a ddywedodd wrtho, A ddichon dim da ddyfod o Nasareth? Philip a ddywedodd wrtho, Tyred, a gwêl.

47. Iesu a ganfu Nathanael yn dyfod ato; ac a ddywedodd amdano, Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll.

48. Nathanael a ddywedodd wrtho, Pa fodd y'm hadwaenost? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Cyn i Philip dy alw di, pan oeddit tan y ffigysbren, mi a'th welais di.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 1