Nathanael a ddywedodd wrtho, Pa fodd y'm hadwaenost? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Cyn i Philip dy alw di, pan oeddit tan y ffigysbren, mi a'th welais di.