Hen Destament

Testament Newydd

Iago 3:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Na fyddwch feistriaid lawer, fy mrodyr: gan wybod y derbyniwn ni farnedigaeth fwy.

2. Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro. Od oes neb heb lithro ar air, gŵr perffaith yw hwnnw, yn gallu ffrwyno'r holl gorff hefyd.

3. Wele, yr ydym ni yn rhoddi ffrwynau ym mhennau'r meirch, i'w gwneuthur yn ufudd i ni; ac yr ydym yn troi eu holl gorff hwy oddi amgylch.

4. Wele, y llongau hefyd, er eu maint, ac er eu gyrru gan wyntoedd creulon, a droir oddi amgylch â llyw bychan, lle y mynno'r llywydd.

5. Felly hefyd y tafod, aelod bychan yw, ac yn ffrostio pethau mawrion. Wele, faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei ennyn!

6. A'r tafod, tân ydyw, byd o anghyfiawnder. Felly y mae'r tafod wedi ei osod ymhlith ein haelodau ni, fel y mae yn halogi'r holl gorff, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam; ac wedi ei wneuthur yn fflam gan uffern.

7. Canys holl natur gwylltfilod, ac adar, ac ymlusgiaid, a'r pethau yn y môr, a ddofir ac a ddofwyd gan natur ddynol:

8. Eithr y tafod ni ddichon un dyn ei ddofi; drwg anllywodraethus ydyw, yn llawn gwenwyn marwol.

9. Ag ef yr ydym yn bendithio Duw a'r Tad; ag ef hefyd yr ydym yn melltithio dynion, a wnaethpwyd ar lun Duw.

10. O'r un genau y mae'n dyfod allan fendith a melltith. Fy mrodyr, ni ddylai'r pethau hyn fod felly.

Darllenwch bennod gyflawn Iago 3