Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 9:6-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. A'r pethau hyn wedi eu trefnu felly, i'r tabernacl cyntaf yn ddiau yr âi bob amser yr offeiriaid, y rhai oedd yn cyflawni gwasanaeth Duw:

7. Ac i'r ail, unwaith bob blwyddyn yr âi'r archoffeiriad yn unig; nid heb waed, yr hwn a offrymai efe drosto'i hun, a thros anwybodaeth y bobl.

8. A'r Ysbryd Glân yn hysbysu hyn, nad oedd y ffordd i'r cysegr sancteiddiolaf yn agored eto, tra fyddai'r tabernacl cyntaf yn sefyll:

9. Yr hwn ydoedd gyffelybiaeth dros yr amser presennol, yn yr hwn yr offrymid rhoddion ac aberthau, y rhai ni allent o ran cydwybod berffeithio'r addolydd;

10. Y rhai oedd yn sefyll yn unig ar fwydydd, a diodydd, ac amryw olchiadau, a defodau cnawdol, wedi eu gosod arnynt hyd amser y diwygiad.

11. Eithr Crist, wedi dyfod yn Archoffeiriad y daionus bethau a fyddent, trwy dabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, hynny yw, nid o'r adeiladaeth yma;

12. Nid chwaith trwy waed geifr a lloi, eithr trwy ei waed ei hun, a aeth unwaith i mewn i'r cysegr, gan gael i ni dragwyddol ryddhad.

13. Oblegid os ydyw gwaed teirw a geifr, a lludw anner wedi ei daenellu ar y rhai a halogwyd, yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd;

14. Pa faint mwy y bydd i waed Crist, yr hwn trwy'r Ysbryd tragwyddol a'i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw, buro eich cydwybod chwi oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu'r Duw byw?

15. Ac am hynny y mae efe yn Gyfryngwr y cyfamod newydd, megis trwy fod marwolaeth yn ymwared oddi wrth y troseddau oedd dan y cyfamod cyntaf, y câi'r rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol.

16. Oblegid lle byddo testament, rhaid yw digwyddo marwolaeth y testamentwr.

17. Canys wedi marw dynion y mae testament mewn grym: oblegid nid oes eto nerth ynddo tra fyddo'r testamentwr yn fyw.

18. O ba achos ni chysegrwyd y cyntaf heb waed.

19. Canys wedi i Moses adrodd yr holl orchymyn yn ôl y gyfraith wrth yr holl bobl, efe a gymerodd waed lloi a geifr, gyda dwfr, a gwlân porffor, ac isop, ac a'i taenellodd ar y llyfr a'r bobl oll,

20. Gan ddywedyd, Hwn yw gwaed y testament a orchmynnodd Duw i chwi.

21. Y tabernacl hefyd a holl lestri'r gwasanaeth a daenellodd efe â gwaed yr un modd.

22. A chan mwyaf trwy waed y purir pob peth wrth y gyfraith; ac heb ollwng gwaed nid oes maddeuant.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 9