3. Ac yn ôl yr ail len, yr oedd y babell, yr hon a elwid, Y cysegr sancteiddiolaf;
4. Yr hwn yr oedd y thuser aur ynddo, ac arch y cyfamod wedi ei goreuro o amgylch; yn yr hon yr oedd y crochan aur a'r manna ynddo, a gwialen Aaron yr hon a flagurasai, a llechau'r cyfamod:
5. Ac uwch ei phen ceriwbiaid y gogoniant yn cysgodi'r drugareddfa: am y rhai ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan.
6. A'r pethau hyn wedi eu trefnu felly, i'r tabernacl cyntaf yn ddiau yr âi bob amser yr offeiriaid, y rhai oedd yn cyflawni gwasanaeth Duw:
7. Ac i'r ail, unwaith bob blwyddyn yr âi'r archoffeiriad yn unig; nid heb waed, yr hwn a offrymai efe drosto'i hun, a thros anwybodaeth y bobl.
8. A'r Ysbryd Glân yn hysbysu hyn, nad oedd y ffordd i'r cysegr sancteiddiolaf yn agored eto, tra fyddai'r tabernacl cyntaf yn sefyll:
9. Yr hwn ydoedd gyffelybiaeth dros yr amser presennol, yn yr hwn yr offrymid rhoddion ac aberthau, y rhai ni allent o ran cydwybod berffeithio'r addolydd;
10. Y rhai oedd yn sefyll yn unig ar fwydydd, a diodydd, ac amryw olchiadau, a defodau cnawdol, wedi eu gosod arnynt hyd amser y diwygiad.
11. Eithr Crist, wedi dyfod yn Archoffeiriad y daionus bethau a fyddent, trwy dabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, hynny yw, nid o'r adeiladaeth yma;
12. Nid chwaith trwy waed geifr a lloi, eithr trwy ei waed ei hun, a aeth unwaith i mewn i'r cysegr, gan gael i ni dragwyddol ryddhad.