Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 13:15-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Trwyddo ef gan hynny offrymwn aberth moliant yn wastadol i Dduw, yr hyn yw ffrwyth ein gwefusau yn cyffesu i'w enw ef.

16. Ond gwneuthur daioni, a chyfrannu, nac anghofiwch: canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw.

17. Ufuddhewch i'ch blaenoriaid, ac ymddarostyngwch: oblegid y maent hwy yn gwylio dros eich eneidiau chwi, megis rhai a fydd rhaid iddynt roddi cyfrif; fel y gallont wneuthur hynny yn llawen, ac nid yn drist: canys di‐fudd i chwi yw hynny.

18. Gweddïwch drosom ni: canys yr ydym yn credu fod gennym gydwybod dda, gan ewyllysio byw yn onest ym mhob peth.

19. Ond yr ydwyf yn helaethach yn dymuno gwneuthur ohonoch hyn, i gael fy rhoddi i chwi drachefn yn gynt.

20. A Duw'r heddwch, yr hwn a ddug drachefn oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu, Bugail mawr y defaid, trwy waed y cyfamod tragwyddol,

21. A'ch perffeithio ym mhob gweithred dda, i wneuthur ei ewyllys ef; gan weithio ynoch yr hyn sydd gymeradwy yn ei olwg ef, trwy Iesu Grist: i'r hwn y byddo'r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

22. Ac yr ydwyf yn atolwg i chwi, frodyr, goddefwch air y cyngor: oblegid ar fyr eiriau yr ysgrifennais atoch.

23. Gwybyddwch ollwng ein brawd Timotheus yn rhydd; gyda'r hwn, os daw efe ar fyrder, yr ymwelaf â chwi.

24. Anerchwch eich holl flaenoriaid, a'r holl saint. Y mae'r rhai o'r Ital yn eich annerch.

25. Gras fyddo gyda chwi oll. Amen.At yr Hebreaid yr ysgrifennwyd o'r Ital, gyda Thimotheus.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 13