23. Oblegid y gŵr yw pen y wraig, megis ag y mae Crist yn ben i'r eglwys; ac efe yw Iachawdwr y corff.
24. Ond fel y mae'r eglwys yn ddarostyngedig i Grist, felly hefyd bydded y gwragedd i'w gwŷr priod ym mhob peth.
25. Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, megis ag y carodd Crist yr eglwys, ac a'i rhoddes ei hun drosti;
26. Fel y sancteiddiai efe hi, a'i glanhau â'r olchfa ddwfr trwy y gair;
27. Fel y gosodai efe hi yn ogoneddus iddo ei hun, yn eglwys heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o'r cyfryw; ond fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddifeius.
28. Felly y dylai'r gwŷr garu eu gwragedd, megis eu cyrff eu hunain. Yr hwn a garo ei wraig, sydd yn ei garu ei hun.
29. Canys ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun; eithr ei fagu a'i feithrin y mae, megis ag y mae'r Arglwydd am yr eglwys:
30. Oblegid aelodau ydym o'i gorff ef, o'i gnawd ef, ac o'i esgyrn ef.
31. Am hynny y gad dyn ei dad a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy a fyddant ill dau yn un cnawd.
32. Y dirgelwch hwn sydd fawr: eithr am Grist ac am yr eglwys yr wyf fi yn dywedyd.
33. Ond chwithau hefyd cymain un, felly cared pob un ohonoch ei wraig, fel ef ei hunan; a'r wraig edryched ar iddi berchi ei gŵr.