Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6

Hen Destament

Testament Newydd

Effesiaid 5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Byddwch gan hynny ddilynwyr Duw, fel plant annwyl;

2. A rhodiwch mewn cariad, megis y carodd Crist ninnau, ac a'i rhoddodd ei hun drosom ni, yn offrwm ac yn aberth i Dduw o arogl peraidd.

3. Eithr godineb, a phob aflendid, neu gybydd‐dra, nac enwer chwaith yn eich plith, megis y gweddai i saint;

4. Na serthedd, nac ymadrodd ffôl, na choeg ddigrifwch, pethau nid ydynt weddus: eithr yn hytrach rhoddi diolch.

5. Canys yr ydych chwi yn gwybod hyn, am bob puteiniwr, neu aflan, neu gybydd, yr hwn sydd ddelw‐addolwr, nad oes iddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Crist a Duw.

6. Na thwylled neb chwi â geiriau ofer: canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd‐dod.

7. Na fyddwch gan hynny gyfranogion â hwynt.

8. Canys yr oeddech chwi gynt yn dywyllwch, ond yr awron goleuni ydych yn yr Arglwydd: rhodiwch fel plant y goleuni;

9. (Canys ffrwyth yr Ysbryd sydd ym mhob daioni, a chyfiawnder, a gwirionedd;)

10. Gan brofi beth sydd gymeradwy gan yr Arglwydd.

11. Ac na fydded i chwi gydgyfeillach â gweithredoedd anffrwythlon y tywyllwch, eithr yn hytrach argyhoeddwch hwynt.

12. Canys brwnt yw adrodd y pethau a wneir ganddynt hwy yn ddirgel.

13. Eithr pob peth, wedi yr argyhoedder, a eglurir gan y goleuni: canys beth bynnag sydd yn egluro, goleuni yw.

14. Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, Deffro di yr hwn wyt yn cysgu, a chyfod oddi wrth y meirw; a Christ a oleua i ti.

15. Gwelwch gan hynny pa fodd y rhodioch yn ddiesgeulus, nid fel annoethion, ond fel doethion;

16. Gan brynu'r amser, oblegid y dyddiau sydd ddrwg.

17. Am hynny na fyddwch annoethion, eithr yn deall beth yw ewyllys yr Arglwydd.

18. Ac na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae gormodedd; eithr llanwer chwi â'r Ysbryd;

19. Gan lefaru wrth eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol; gan ganu a phyncio yn eich calon i'r Arglwydd;

20. Gan ddiolch yn wastad i Dduw a'r Tad am bob peth, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist;

21. Gan ymddarostwng i'ch gilydd yn ofn Duw.

22. Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr priod, megis i'r Arglwydd.

23. Oblegid y gŵr yw pen y wraig, megis ag y mae Crist yn ben i'r eglwys; ac efe yw Iachawdwr y corff.

24. Ond fel y mae'r eglwys yn ddarostyngedig i Grist, felly hefyd bydded y gwragedd i'w gwŷr priod ym mhob peth.

25. Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, megis ag y carodd Crist yr eglwys, ac a'i rhoddes ei hun drosti;

26. Fel y sancteiddiai efe hi, a'i glanhau â'r olchfa ddwfr trwy y gair;

27. Fel y gosodai efe hi yn ogoneddus iddo ei hun, yn eglwys heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o'r cyfryw; ond fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddifeius.

28. Felly y dylai'r gwŷr garu eu gwragedd, megis eu cyrff eu hunain. Yr hwn a garo ei wraig, sydd yn ei garu ei hun.

29. Canys ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun; eithr ei fagu a'i feithrin y mae, megis ag y mae'r Arglwydd am yr eglwys:

30. Oblegid aelodau ydym o'i gorff ef, o'i gnawd ef, ac o'i esgyrn ef.

31. Am hynny y gad dyn ei dad a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy a fyddant ill dau yn un cnawd.

32. Y dirgelwch hwn sydd fawr: eithr am Grist ac am yr eglwys yr wyf fi yn dywedyd.

33. Ond chwithau hefyd cymain un, felly cared pob un ohonoch ei wraig, fel ef ei hunan; a'r wraig edryched ar iddi berchi ei gŵr.