Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6

Hen Destament

Testament Newydd

Effesiaid 2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A chwithau a fywhaodd efe, pan oeddech feirw mewn camweddau a phechodau;

2. Yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ôl helynt y byd hwn, yn ôl tywysog llywodraeth yr awyr, yr ysbryd sydd yr awron yn gweithio ym mhlant anufudd‐dod;

3. Ymysg y rhai hefyd y bu ein hymarweddiad ni oll gynt, yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd a'r meddyliau; ac yr oeddem ni wrth naturiaeth yn blant digofaint, megis eraill.

4. Eithr Duw, yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, oherwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y carodd efe ni,

5. Ie, pan oeddem feirw mewn camweddau, a'n cydfywhaodd ni gyda Christ, (trwy ras yr ydych yn gadwedig;)

6. Ac a'n cydgyfododd, ac a'n gosododd i gydeistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu:

7. Fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai, ragorol olud ei ras ef, trwy ei gymwynasgarwch i ni yng Nghrist Iesu.

8. Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd; a hynny nid ohonoch eich hunain: rhodd Duw ydyw:

9. Nid o weithredoedd, fel nad ymffrostiai neb.

10. Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a ragddarparodd Duw, fel y rhodiem ni ynddynt.

11. Am hynny cofiwch, a chwi gynt yn Genhedloedd yn y cnawd, y rhai a elwid yn ddienwaediad, gan yr hyn a elwir enwaediad o waith llaw yn y cnawd;

12. Eich bod chwi y pryd hwnnw heb Grist, wedi eich dieithrio oddi wrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddi wrth amodau'r addewid, heb obaith gennych, ac heb Dduw yn y byd:

13. Eithr yr awron yng Nghrist Iesu, chwychwi, y rhai oeddech gynt ymhell, a wnaethpwyd yn agos trwy waed Crist.

14. Canys efe yw ein tangnefedd ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni:

15. Ac a ddirymodd trwy ei gnawd ei hun y gelyniaeth, sef deddf y gorchmynion mewn ordeiniadau, fel y creai'r ddau ynddo'i hun yn un dyn newydd, gan wneuthur heddwch;

16. Ac fel y cymodai'r ddau â Duw yn un corff trwy'r groes, wedi lladd y gelyniaeth trwyddi hi.

17. Ac efe a ddaeth, ac a bregethodd dangnefedd i chwi'r rhai pell, ac i'r rhai agos.

18. Oblegid trwyddo ef y mae i ni ein dau ddyfodfa mewn un Ysbryd at y Tad.

19. Weithian gan hynny nid ydych chwi mwyach yn ddieithriaid a dyfodiaid, ond yn gyd‐ddinasyddion â'r saint, ac yn deulu Duw;

20. Wedi eich goruwchadeiladu ar sail yr apostolion a'r proffwydi, ac Iesu Grist ei hun yn benconglfaen;

21. Yn yr hwn y mae'r holl adeilad wedi ei chymwys gydgysylltu, yn cynyddu'n deml sanctaidd yn yr Arglwydd:

22. Yn yr hwn y'ch cydadeiladwyd chwithau yn breswylfod i Dduw trwy'r Ysbryd.