Hen Destament

Testament Newydd

Effesiaid 3:13-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Oherwydd paham yr wyf yn dymuno na lwfrhaoch oblegid fy mlinderau i drosoch, yr hyn yw eich gogoniant chwi.

14. Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau at Dad ein Harglwydd Iesu Grist,

15. O'r hwn yr enwir yr holl deulu yn y nefoedd ac ar y ddaear,

16. Ar roddi ohono ef i chwi, yn ôl cyfoeth ei ogoniant, fod wedi ymgadarnhau mewn nerth, trwy ei Ysbryd ef, yn y dyn oddi mewn;

17. Ar fod Crist yn trigo trwy ffydd yn eich calonnau chwi;

18. Fel y galloch, wedi eich gwreiddio a'ch seilio mewn cariad, amgyffred gyda'r holl saint, beth yw'r lled, a'r hyd, a'r dyfnder, a'r uchder;

19. A gwybod cariad Crist, yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth, fel y'ch cyflawner â holl gyflawnder Duw.

20. Ond i'r hwn a ddichon wneuthur yn dra rhagorol, y tu hwnt i bob peth yr ydym ni yn eu dymuno, neu yn eu meddwl, yn ôl y nerth sydd yn gweithredu ynom ni,

21. Iddo ef y byddo'r gogoniant yn yr eglwys trwy Grist Iesu, dros yr holl genedlaethau, hyd yn oes oesoedd. Amen.

Darllenwch bennod gyflawn Effesiaid 3