5. Ie, pan oeddem feirw mewn camweddau, a'n cydfywhaodd ni gyda Christ, (trwy ras yr ydych yn gadwedig;)
6. Ac a'n cydgyfododd, ac a'n gosododd i gydeistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu:
7. Fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai, ragorol olud ei ras ef, trwy ei gymwynasgarwch i ni yng Nghrist Iesu.
8. Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd; a hynny nid ohonoch eich hunain: rhodd Duw ydyw:
9. Nid o weithredoedd, fel nad ymffrostiai neb.
10. Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a ragddarparodd Duw, fel y rhodiem ni ynddynt.
11. Am hynny cofiwch, a chwi gynt yn Genhedloedd yn y cnawd, y rhai a elwid yn ddienwaediad, gan yr hyn a elwir enwaediad o waith llaw yn y cnawd;
12. Eich bod chwi y pryd hwnnw heb Grist, wedi eich dieithrio oddi wrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddi wrth amodau'r addewid, heb obaith gennych, ac heb Dduw yn y byd:
13. Eithr yr awron yng Nghrist Iesu, chwychwi, y rhai oeddech gynt ymhell, a wnaethpwyd yn agos trwy waed Crist.
14. Canys efe yw ein tangnefedd ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni:
15. Ac a ddirymodd trwy ei gnawd ei hun y gelyniaeth, sef deddf y gorchmynion mewn ordeiniadau, fel y creai'r ddau ynddo'i hun yn un dyn newydd, gan wneuthur heddwch;
16. Ac fel y cymodai'r ddau â Duw yn un corff trwy'r groes, wedi lladd y gelyniaeth trwyddi hi.