13. Eithr yr awron yng Nghrist Iesu, chwychwi, y rhai oeddech gynt ymhell, a wnaethpwyd yn agos trwy waed Crist.
14. Canys efe yw ein tangnefedd ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni:
15. Ac a ddirymodd trwy ei gnawd ei hun y gelyniaeth, sef deddf y gorchmynion mewn ordeiniadau, fel y creai'r ddau ynddo'i hun yn un dyn newydd, gan wneuthur heddwch;
16. Ac fel y cymodai'r ddau â Duw yn un corff trwy'r groes, wedi lladd y gelyniaeth trwyddi hi.
17. Ac efe a ddaeth, ac a bregethodd dangnefedd i chwi'r rhai pell, ac i'r rhai agos.
18. Oblegid trwyddo ef y mae i ni ein dau ddyfodfa mewn un Ysbryd at y Tad.
19. Weithian gan hynny nid ydych chwi mwyach yn ddieithriaid a dyfodiaid, ond yn gydâddinasyddion â'r saint, ac yn deulu Duw;
20. Wedi eich goruwchadeiladu ar sail yr apostolion a'r proffwydi, ac Iesu Grist ei hun yn benconglfaen;
21. Yn yr hwn y mae'r holl adeilad wedi ei chymwys gydgysylltu, yn cynyddu'n deml sanctaidd yn yr Arglwydd: